Benjamin Netanyahu
| Benjamin Netanyahu | |
|---|---|
| Ffugenw | Ben Nitay |
| Llais | Prime Minister Benjamin Netanyahu on President Donald Trump's Gaza Peace Plan - September 29, 2025.wav |
| Ganwyd | בנימין נתניהו 21 Hydref 1949 Tel Aviv |
| Man preswyl | Beit Aghion, Caesarea, Jerwsalem |
| Dinasyddiaeth | Israel |
| Addysg | Baglor mewn Gwyddoniaeth, Meistr yn y Gwyddorau |
| Alma mater | |
| Ymgynghorydd y doethor | |
| Galwedigaeth | gwleidydd, diplomydd, gwladweinydd, person milwrol, ysgrifennwr gwleidyddol, gwyddonydd gwleidyddol |
| Adnabyddus am | A Place Among the Nations, Fighting Terrorism, Bibi: My Story, Terrorism: How the West Can Win |
| Plaid Wleidyddol | Likud |
| Tad | Benzion Netanyahu |
| Mam | Zila Netanyahu |
| Priod | Sara Netanyahu, Miki Weizman Haran, Fleur Cates |
| Plant | Noa Roth, Yair Netanyahu, Avner Netanyahu |
| Perthnasau | Nathan Mileikowsky, Elisha Netanyahu, Shoshana Netanyahu, Nathan Netanyahu, Shmuel Ben-Artzi |
| Llinach | Netanyahu family |
| Gwobr/au | Jabotinsky Medal, Tzeltner Prize, honorary doctor of the Bar-Ilan University, Gwobr Irving Kristol, Gwobr y Groes Uwch Genedlaethol o Groes y De |
| Gwefan | https://www.netanyahu.org.il |
| llofnod | |
Benjamin "Bibi" Netanyahu, hefyd Binyamin Netanyahu (ganed 21 Hydref 1949) yw nawfed Prif Weinidog Israel. Cafodd ei wneud yn Brif Weinidog ym Mawrth 2009. Mae hefyd yn Gadeirydd y Blaid Likud ac yn aelod o'r Knesset; ef hefyd ydy Gweinidog dros Iechyd ei wlad, Gweinidog Pensiynau a Gweinidog dros Strategaeth Economaidd Israel.
Ef ydy'r Prif Weinidog cyntaf i gael ei eni ar ôl creu Israel yn wladwriaeth sofran. Ymunodd â llu arfog Israel yn 1967 gan wasanaethu fel 'commander' yn yr uned gomando a elwir yn Sayeret Matkal gan gymryd rhan mewn sawl ymgyrch milwrol gan gynnwys achub gwystlon y 'Sabena Flight 572' yn 1972. Ymladdodd yn Rhyfel Yom Kippur yn 1973 a chael ei wneud yn gapten a gadael y fyddin. Netanyahu yw'r prif weinidog sydd wedi gwasanaethu hiraf yn hanes Israel, ar ôl gwasanaethu cyfanswm o dros 17 mlynedd. Yn ôl Erdogan, Arlywydd Twrci ym Mehefin 2025, o ran yr hil-laddiad mae'n gyfrifol amdano, mae Netanyahu bellach yn waeth na Hitler.[1]
Cynrychiolodd Israel ar y Cenhedloedd Unedig o 1984 hyd at 1988, ac fe'i gwnaed yn Brif Weinidog rhwng 1996 a 1999. Cafodd ei wneud yn Ysgrifennydd Tramor rhwng 2002 a 2003, yn Ysgrifennydd Materion Ariannol yn Awst 2005 yn Llywodraeth Ariel Sharon gan adael ar ôl anghytuno ynghylch Llain Gaza.
Ailafaelodd yn awenau ei blaid ar 20 Rhagfyr 2005 gan eu harwain fel gwrth-blaid. Yn etholiadau 2009 ail oedd Likud ond ffurfiwyd llywodraeth clymblaid.[2]
Mae'n frawd i Yonatan Netanyahu, sy'n gomander ym myddin Israel ac a fu farw wrth geisio achub gwystlon yn 'Operation Entebbe'.
Daeth Netanyahu yn gyfaill i Donald Trump yn 1980au. Yn ystod arlywyddiaeth gyntaf Trump, cydnabu'r Unol Daleithiau Jerwsalem fel prifddinas Israel, cydnabu sofraniaeth Israel dros Ucheldiroedd Golan, a chyfryngodd Gytundebau Abraham, cytundebau normaleiddio rhwng Israel a'r byd Arabaidd. Mae Netanyahu wedi wynebu beirniadaeth llym am ehangu aneddiadau Israel yn y Lan Orllewinol, a ystyrir yn anghyfreithlon o dan gyfraith ryngwladol. Yn 2019, cyhuddwyd Netanyahu o dorri ymddiriedaeth, llwgrwobrwyo a thwyll. Ym Mehefin 2021, cafodd Netanyahu ei ddiswyddo o'r brif weinidogiaeth, cyn dychwelyd ar ôl etholiad 2022.
Cafodd Netanyahu ei feirniadu am wrthdroi democratiaeth ac mae arddull ei yn cael ei weld gan lawer yn awdurdodaidd ac yn ymylu ar unbeniaeth. Cafwyd protestiadau ar raddfa fawr yn gynnar yn 2023. Yn dilyn ymosodiadau 7 Hydref gan grwpiau Palesteinaidd dan arweiniad Hamas cafwyd protestiadau mawr yn erbyn Netanyahu am y diffyg diogelwch yn ystod yr ymosodiad a methiant Netanyahu i sicrhau fod gwystlon Israelaidd yn dychwelyd adref i Israel. Yn Hydref 2024, gorchmynnodd Netanyahu ymosodiad ar Libanus gyda'r nod datganedig o ddinistrio galluoedd milwrol Hezbollah, cynghreiriad allweddol i Hamas a'u cynorthwyodd ers yr ymosodiad ar 7 Hydref. Ar ôl cwymp cyfundrefn Assad yn Rhagfyr 2024, cyfarwyddodd Netanyahu oresgyniad Syria yn llwyddiannus. Bu hefyd yn llywyddu dros ymosodiadau Israel ar Iran ym Mehefin 2025.

Ymchwiliadau troseddol a chyhuddiad
[golygu | golygu cod]Ers Ionawr 2017, mae Netanyahu wedi heddlu Israel wedi ymchwilio i'w weithgaredd ar ddau achos, a'i holi'n drylwyr, "Achos 1000" ac "Achos 2000". Mae'r ddau achos yn gysylltiedig. Yn Achos 1000, mae Netanyahu dan amheuaeth o fod wedi cael ffafrau amhriodol gan ddynion busnes, gan gynnwys James Packer a'r cynhyrchydd Hollywood Arnon Milchan.[3][4] Mae Achos 2000 yn ymwneud ag ymdrechion honedig i daro bargen gyda chyhoeddwr grŵp papurau newydd Yedioth Ahronot, Arnon Mozes, i hyrwyddo deddfwriaeth i wanhau prif gystadleuydd Yedioth, Israel Hayom, yn gyfnewid am sylw mwy ffafriol i Netanyahu.
Ar 3 Awst 2017, cadarnhaodd heddlu Israel am y tro cyntaf fod Netanyahu dan amheuaeth o droseddau yn ymwneud â thwyll, torri ymddiriedaeth, a llwgrwobrwyo yn achosion "1000" a "2000".[5] Y diwrnod canlynol, adroddwyd bod cyn-bennaeth staff y prif weinidog, Ari Harow, wedi llofnodi cytundeb gydag erlynwyr i dystio yn erbyn Netanyahu yn yr achosion hyn.[6]
Roedd achos troseddol Netanyahu i fod i ddechrau ar 24 Mai 2020, ar ôl cael ei drefnu'n wreiddiol ar gyfer mis Mawrth y flwyddyn honno ond ei ohirio oherwydd pandemig COVID-19.[7] Yn Ebrill 2023, roedd yr achos troseddol yn dal i fynd rhagddo.[8]
Hil-laddiad
[golygu | golygu cod]Yn Rhagfyr 2023, dywedodd Netanyahu y dylai Israel gefnogi "mudo gwirfoddol" y Palesteiniaid o Gaza.[9] Cyhuddwyd Netanyahu o [[hil-laddiad gan sefydliadau anllywodraethol,[10][11] gan arwain at achos <i id="mwCB8">De Affrica v. Israel</i> gerbron y Llys Cyfiawnder Rhyngwladol yn Rhagfyr 2023.[12]
Ar 20 Mai 2024, cyhoeddodd Karim Khan, erlynydd y Llys Troseddol Rhyngwladol, ei fwriad i wneud cais am warant i arestio Netanyahu ar sawl cyhuddiad o droseddau rhyfel honedig a throseddau yn erbyn dynoliaeth.[13][14]
Ar 21 Tachwedd 2024, cyhoeddodd y Llys Troseddol Rhyngwladol warantau arestio ar gyfer Netanyahu, a'i gyn-weinidog amddiffyn Gallant am droseddau rhyfel honedig a gyflawnwyd yn ystod rhyfel Gaza.[15] Disgrifiodd Netanyahu y dyfarniad fel "celwyddau hurt a ffug" a dywedodd fod y penderfyniad yn "wrth-Semitaidd".[16]
Ar 18 Mawrth 2025, lansiodd Israel ymosodiad annisgwyl ar Llain Gaza, gan ddod â chaoediad rhyfel Gaza 2025 i ben.[17] Roedd Netanyahu i fod i dystio yn ei achos llys am lygredd ar 18 Mawrth, ond o ganlyniad i'r ymosodiadau, gohiriwyd yr achos cyfreithiol.[18][19]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ jpost.com; Turkey's Erdogan: Teitl: PM Netanyahu has long left Hitler behind in terms of genocide; Dyddiad cyhoeddi: 18 Mehefin 2025; adalwyd 18 Mehefin 2025.
- ↑ Cyhoeddiad Haaretz Archifwyd 2010-01-02 yn y Peiriant Wayback; 01-04-2009.
- ↑ Amnon Abramovich. (yn Hebraeg). Reshet https://web.archive.org/web/20161230091611/http://reshet.tv/item/news/politics/politics/suspected-of-accepting-favors-82058/. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 Rhagfyr 2016. Cyrchwyd 29 Rhagfyr 2016. Unknown parameter
|TransTitle=ignored (|trans-title=suggested) (help); Missing or empty|title=(help) - ↑ "Netanyahu questioned by Israeli police for a second time in graft probe". The Daily Telegraph. Associated Press. 6 Ionawr 2017. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 Ionawr 2022. Cyrchwyd 4 May 2020.
- ↑ "Benjamin Netanyahu suspected of bribery, fraud, Israeli police say". CBS News. Associated Press. 4 August 2017. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 Ebrill 2020. Cyrchwyd 4 May 2020.
- ↑ Hovel, Revital (4 August 2017). "Former Netanyahu Aide Ari Harow Reaches Deal to Become State's Witness". Haaretz. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 Ebrill 2020. Cyrchwyd 4 May 2020.
- ↑ "Was the delay of Netanyahu's trial cynical or legal? – analysis". The Jerusalem Post. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 Mawrth 2020. Cyrchwyd 15 Mawrth 2020.
- ↑ "What is the latest on Benjamin Netanyahu's corruption trial?". The Times of India. 27 Ebrill 2023. ISSN 0971-8257. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 May 2023. Cyrchwyd 1 May 2023.
- ↑ "Israeli MK: Countries in South America, Africa Offered to Accept Refugees From Gaza, in Exchange for Payment". Haaretz. 26 Rhagfyr 2023. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 Rhagfyr 2023. Cyrchwyd 30 Rhagfyr 2023.
- ↑ Eghbariah, Rabea (21 Tachwedd 2023). "The Harvard Law Review Refused to Run This Piece About genocide in Gaza". The Nation. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 Rhagfyr 2023. Cyrchwyd 21 Mawrth 2024.
- ↑ "Gaza: UN experts call on international community to prevent genocide against the Palestinian people". UN. 16 Tachwedd 2023. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 Rhagfyr 2023. Cyrchwyd 21 Mawrth 2024.
- ↑ Powell, Anita (4 Ionawr 2024). "South Africa to take Israel to Top UN Court on Genocide Claim in Gaza". Voice of America. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 Ionawr 2024. Cyrchwyd 21 Mawrth 2024.
- ↑ Khan, Karim A.A. (20 May 2024). "Statement of ICC Prosecutor Karim A.A. Khan KC: Applications for arrest warrants in the situation in the State of Palestine". icc-cpi.int. International Criminal Court. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 May 2024. Cyrchwyd 20 May 2024.
- ↑ Kottasová, Ivana (20 May 2024). "EXCLUSIVE: ICC seeks arrest warrants against Sinwar and Netanyahu for war crimes over October 7 attack and Gaza war". CNN (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 May 2024. Cyrchwyd 20 May 2024.
- ↑ Gritten, David (21 Tachwedd 2024). "Arrest warrants issued for Netanyahu, Gallant and Hamas commander over alleged war crimes". BBC.
- ↑ Belam, Martin (21 Tachwedd 2024). "Netanyahu says ICC warrant for his arrest over alleged war crimes is 'antisemitic' and 'absurd' – Middle East live". the Guardian.
- ↑ "Israel breaks ceasefire with surprise airstrike, killing more than 400 Palestinians". AP News (yn Saesneg). 18 Mawrth 2025. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 Mawrth 2025. Cyrchwyd 19 Mawrth 2025.
- ↑ "Netanyahu's court testimony today canceled; PM to hold urgent security consultation at 11 a.m." The Times of Israel. 18 Mawrth 2025. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 Mawrth 2025. Cyrchwyd 18 Mawrth 2025.
- ↑ "Israeli Cabinet Votes Unanimously to Dismiss Shin Bet Head Ronen Bar". Haaretz. 20 Mawrth 2025.
