Intolerance
Gwedd
| Enghraifft o: | ffilm fud |
|---|---|
| Crëwr | D. W. Griffith |
| Lliw/iau | du-a-gwyn |
| Gwlad | Unol Daleithiau America |
| Rhan o | rhestr ffilmiau'r Fatican, Cofrestr Cenedlaethol Ffilmiau |
| Dyddiad cyhoeddi | 1916 |
| Genre | ffilm ddrama, ffilm gelf, ffilm fud |
| Prif bwnc | intolerance |
| Statws hawlfraint | parth cyhoeddus |
| Lleoliad y gwaith | Paris |
| Hyd | 197 munud |
| Cyfarwyddwr/wyr | D. W. Griffith |
| Cynhyrchydd/wyr | D. W. Griffith |
| Cwmni cynhyrchu | Triangle Film Corporation |
| Cyfansoddwr | Joseph Carl Breil |
| Dosbarthydd | Triangle Film Corporation, Netflix |
| Iaith wreiddiol | Saesneg |
| Sinematograffydd | Billy Bitzer, Karl Brown |
| Sgriptiwr | D. W. Griffith, Tod Browning, Anita Loos, Frank E. Woods |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/019zmp |
Ffilm ddrama heb sain (na llais) gan y cyfarwyddwr D. W. Griffith yw Intolerance a gyhoeddwyd yn 1916. Fe’i cynhyrchwyd yn Unol Daleithiau America. Sgwennwyd y sgript yn wreiddiol yn Saesneg a hynny gan D. W. Griffith, Hettie Gray Baker, Anita Loos, Mary H. O'Connor a Frank E. Woods.[1][2]
Y prif actorion yn y ffilm hon yw Lillian Gish, Mae Marsh, Robert Harron, Howard Gaye a Constance Talmadge.
Mae'r ffilm yn un hir – tair awr a hanner. Mae'n cynnwys pedair llinell stori gyfochrog, pob un wedi'i gwahanu gan sawl canrif:
- stori wedi'i lleoli ym Mabilon hynafol: cwymp Ymerodraeth Fabilonaidd i Persia yn 539 CC
- stori Feiblaidd: cenhadaeth a marwolaeth Iesu Grist
- stori wedi'i lleoli yn Ffrainc hanesyddol: y digwyddiadau o amgylch Cyflafan Bartlemi ym 1572
- stori wedi'i lleoli yn yr Unol Daleithiau cyfoes: stori o drosedd ac iachawdwriaeth
Roedd gan bob stori ei lliw nodedig ei hun yn y print gwreiddiol. Mae'r golygfeydd wedi'u cysylltu gan luniau o ffigur yn cynrychioli Mam Dragwyddol, yn siglo crud.
-
Y stori Fabilonaidd: Gwledd Belsassar ym Mabilon
-
Y stori Feiblaidd: cenhadaeth Iesu
-
Y stori Ffrengig: Cyflafan Bartlemi
-
Y stori cyfoes: saethu at weithwyr ar streic
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Dirks, Tim. "Intolerance (1916)". The Best Films of All Time – A Primer of Cinematic History (yn Saesneg). Cyrchwyd 2 Awst 2025.
- ↑ Rapold, Nicholas (26 Gorffennaf 2013). "Birth of Another Spectacle, and Its Life". The New York Times (yn Saesneg). Cyrchwyd 4 Chwefror 2016.