James Cook
| James Cook | |
|---|---|
| Ganwyd | 27 Hydref 1728 Marton |
| Bu farw | 14 Chwefror 1779 o clwyf drwy stabio Kealakekua Bay |
| Dinasyddiaeth | Teyrnas Prydain Fawr |
| Galwedigaeth | fforiwr, mapiwr, swyddog yn y llynges, morwr, botanegydd |
| Tad | James Cook |
| Mam | Grace Pace |
| Priod | Elizabeth Cook |
| Plant | James Cook, Nathaniel Cook, Elizabeth Cook, Joseph Cook, George Cook, Hugh Cook |
| Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Medal Copley, Pobl o Bwys Hanesyddol Cenedlaethol |
| llofnod | |
Fforiwr o Loegr oedd Capten James Cook (27 Hydref 1728 – 14 Chwefror 1779). Ganwyd ym Marton, Cleveland, Lloegr. Teithiodd o gwmpas y byd dair gwaith, er mwyn darganfod tiroedd newydd. Fe luniodd fapiau manwl, er enghraifft o arfordiroedd ynysoedd y Môr Tawel, Awstralia, Seland Newydd a Gogledd America.
Mordeithiau Cook
[golygu | golygu cod]Roedd y fordaith gyntaf (1768-1771) yn yr HM Bark Endeavour i Dahiti er mwyn gwylio'r blaned Gwener yn symud o flaen yr haul. Ond doedd hi ddim yn bosibl cael canlyniadau cywir gyda'r offer seryddol ar y pryd. Ar ôl gwylio Gwener, aeth Cook i chwilio am Terra Australis, arfordir cyfiniol y Môr Tawel, ac i fapio arfordiroedd Seland Newydd ac Awstralia.
Roedd yr ail fordaith (1772-1775) ar HMS Resolution ac HMS Adventure; roedd yn daith arall i ddod o hyd i Terra Australis a'r cynnig cyntaf i long o Ewrop hwylio i Fôr Antarctica. Ar y daith hon profodd Cook nad oedd Terra Australis yn bodoli, ond darganfu lawer o ynysoedd.
Roedd y drydedd fordaith (1776-1779) ar y llongau HMS Resolution ac HMS Endeavour, i chwilio am lwybr môr o'r Môr Iwerydd i'r Môr Tawel o gwmpas gogledd Canada, sef y 'Tramwyfa gogledd-orllewin'. Ar ôl gwneud mapiau o arfordir gorllewin America, bu'n rhaid iddo droi yn ôl i Hawaii, lle cafodd ei ladd gan brodorion yr ynys ar ôl brwydro i gael yn ôl cwch a oedd wedi'i ddwyn. Roedd y Cymro David Samwell (Dafydd Ddu Feddyg), yn feddyg ar drydedd fordaith y Capten Cook. Roedd yn fab i'r llenor Edward Samuel, gŵr o Benmorfa yn Edeirnion, a fu'n berson Llangar o 1721 tan 1748. Cadwodd ddyddiadur am y fordaith a chyhoeddodd y llyfr A Narrative of the Death of Captain James Cook yn 1786.
Gorchestion
[golygu | golygu cod]Mae Cook yn adnabyddus am ei sgiliau gwneud mapiau, am fod yn lwyddiannus wrth atal afiechydion morwyr, ac wrth ddatblygu dulliau mordwyo newydd.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- David Samwell, A Narrative of the Death of Captain James Cook (1786)