Martinîc
| Math | rhanbarthau Ffrainc, overseas department and region of France, rhestr o diriogaethau dibynnol |
|---|---|
| Prifddinas | Fort-de-France |
| Poblogaeth | 361,019 |
| Sefydlwyd | |
| Anthem | La Marseillaise |
| Pennaeth llywodraeth | Serge Letchimy |
| Cylchfa amser | UTC−04:00 |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Antilles Leiaf, Ynysoedd y Windward |
| Lleoliad | Martinique |
| Sir | Ffrainc |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 1,128 km² |
| Cyfesurynnau | 14.65°N 61.015°W |
| FR-972 | |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff deddfwriaethol | Regional Council of Martinique |
| Pennaeth y Llywodraeth | Serge Letchimy |
![]() | |
| Arian | Ewro |

Ynys yn nwyrain Môr y Caribî a Département tramor o Ffrainc yw Martinîc (Ffrangeg: Martinique, Creol Martinicaidd: Matinik, Calinagoeg: Madinina).
Fe'i lleolir i'r de-ddwyrain o Dominica ac i'r gogledd o Sant Lwsia. Roedd y boblogaeth yn 2006 yn 397,732. Y brifddinas a'r ddinas fwyaf yw Fort-de-France, gyda phoblogaeth o 134,727 yn 1999, 35% o boblogaeth yr holl ynys. Dinasoedd eraill yw Le Lamentin, Sainte-Marie a Le Robert.

Ffrangeg yw'r iaith swyddogol, ond mae bron pawb o'r trigolion hefyd yn siarad Créole Martiniquais.
Ar 8 Mai 1902, ffrwydrodd llosgfynydd Mont Pelée, a dinistriwyd prifddinas yr ynys yr adeg honno, Saint-Pierre, yn llwyr. Lladdwyd bron y cyfan o'i thrigolion, tua 30,000, gan gymylau o lwch folcanig chwilboeth; dywedir mai dim ond dau o drigolion Saint-Pierre a adawyd yn fyw.
