Picture Post
Gwedd
| Enghraifft o: | papur newydd |
|---|---|
| Daeth i ben | 1957 |
| Golygydd | Tom Hopkinson |
| Cyhoeddwr | Hulton Press |
| Iaith | Saesneg |
| Dechrau/Sefydlu | 1938 |
| Dechreuwyd | 1938 |
| Daeth i ben | 1957 |
| Prif bwnc | materion cyfoes |
| Sylfaenydd | Edward George Warris Hulton |
| Gwefan | http://www.gettyimages.com/EditorialImages/Archival/Hulton |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/046nrs |

Roedd Picture Post yn gylchgrawn lluniau newyddion blaenllaw a gyhoeddwyd yn Lloegr o 1938 hyd 1957. Cafodd lwyddiant eithriadol o'r cychwyn cyntaf, gyda chylchrediad o 1,600,000 yr wythnos ar ôl chwe mis. Gellid ei gymharu i'r cylchgrawn Life yn yr Unol Daleithiau o ran deunydd ac apêl.
Ymysg ffotograffwyr Picture Post roedd Stanley Long, a aeth ymlaen i gynhyrchu nifer o ffilmiau sexploitation. Roedd gogwydd y golygyddol yn rhyddfrydol, yn wrth-Ffasgaidd ac yn boblogaidd.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Hulton|Archive – History in Pictures Archifwyd 2013-05-27 yn y Peiriant Wayback History of Picture Post by the Archive Curator Sarah McDonald, 15/10/04. Adalwyd Mawrth 2008