Rear Window
Gwedd
Poster y Ffilm | |
|---|---|
| Cyfarwyddwr | Alfred Hitchcock |
| Ysgrifennwr | Cornell Woolrich (stori) John Michael Hayes |
| Serennu | James Stewart Grace Kelly Wendell Corey Thelma Ritter |
| Cerddoriaeth | Franz Waxman |
| Sinematograffeg | Robert Burks |
| Golygydd | George Tomasini |
| Dylunio | |
| Cwmni cynhyrchu | Paramount Pictures (1954-83) Universal Studios(ers 1983) USA Films (ail-ryddhad 2000) |
| Dyddiad rhyddhau | 1 Awst 1954 |
| Amser rhedeg | 112 munud |
| Gwlad | Unol Daleithiau America |
| Iaith | Saesneg |

Ffilm arloesol gan y cyfarwyddwr Alfred Hitchcock sy'n serennu James Stewart yw Rear Window (1954). Mae'r actorion eraill yn cynnwys Grace Kelly (cariad cymeriad Stewart) a Raymond Burr.
Dyma un o ffilmiau iasoer mwyaf cyfareddol ac arloesol Hitchcock. Cyfyngir y saethu i un stafell yn unig, lle ceir Stewart yn chwarae rhan ffotograffyd sydd mewn cadair olwyn oherwydd damwain. Fel sawl ffilm gan Hirchcock ceir elfen gref o voyeurism yn y ffilm, gyda Stewart yn gwylio bywyd personol pobl trwy ffenestri'r fflatiau cyfagos, pob un ohonynt yn ymagor ar fyd o gyfrinachau a drama annisgwyl.