Mtskheta
Gwedd
| Math | dinas, populated place in Georgia |
|---|---|
| Poblogaeth | 7,606 |
| Cylchfa amser | UTC+04:00 |
| Gefeilldref/i | |
| Iaith/Ieithoedd swyddogol | Georgeg |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Bwrdeistref Mtskheta |
| Gwlad | |
| Uwch y môr | 460 metr |
| Gerllaw | Afon Kura, Afon Aragvi |
| Cyfesurynnau | 41.8431°N 44.7194°E |
| Cod post | 3300 |
![]() | |
Tref yn Georgia yw Mtskheta. Gorwedd ym mynyddoedd y Cawcasws ar lan Afon Mtkvari (afon Kura) wrth ei chymer ag afon Aragvi. Mae ganddi boblogaeth o fymryn dros 7,000.
Mtskheta yw un o'r trefi mwyaf hynafol yn Georgia. Oherwydd ei diddoredeb hanesyddol a welir yn yr adeiladau canoloesol yn y dref a'r cyffiniau. cyhoeddwyd Mtskheta yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO yn 1994.
Mae'r adeiladau cynnar yn cynnwys Eglwys Gadeiriol Svetitskhoveli (11g, gweler y llun) a Mynachlog Jvari (6g). Ceir arysgrifiadau cynnar yn y ddau le sydd o gymorth mawr i arbenigwyr sy'n astudio datblygiad yr wyddor Georgieg.
Ar gyrion Mtskheta ceir adfeilion caer Armaztsikhe (3g CC), acropolis Armaztsikhe, , ac eglwysi a safleoedd archaeolegol eraill.


